Watford 1-1 Caerdydd

Cyhoeddwyd

Watford 1-1 Caerdydd

Bu'n rhaid i Gaerdydd ddiolch i un o amddiffynwyr Watford er mwyn sicrahu gem gyfartal yn y bencampwriaeth.

Roedd Watford ar y blaen o 1-0 gyda deg munud yn weddill pan wnaeth Adrian Mariappa roi'r bêl yn rhwyd ei hun.

Fe ddechreuodd y gem yn fwy addawol i'r adar gleision a nhw oedd y tîm cryfaf ar ddechrau'r gêm.

Roedd yr ymwelwyr yn rheoli'r chwarae gyda Mark Hudson yn penio uwchben y croesbren o gornel Peter Whittingham.

Yna tarodd Whittingham erbyn yn erbyn y postyn, ac yn ffodus i Watford disgynnodd y bel i freichiau'r golgeidwad Loach.

Ond yn erbyn rhediad y chwarae Watford aeth y blaen wrth i Prince Buaben ergydio o fewn y cwrt cosbi yn dilyn pas Marvin Sordell ar ôl 62 munud.

Wrth iddi ymddangos fod Watford yn mynd i sicrhau'r tri phwynt fe fethodd Loach a delio gyda thafliad hir, ac fe wnaeth y bêl ddod oddi ar Mariappa gan orffen yng nghefn y rhwyd.

Rhagfyr 26, 5.10 pm