Gleision 28 -9 Dreigiau

RaboDirect Pro12 Image copyright Other

Fe ddechreuodd Gavin Henson ei gêm gyntaf i'r Gleision gan ddathlu gyda buddugoliaeth.

Yn gynnar yn y gêm cafodd y cefnwr rediad addawol ond daeth y symudiad i ddim yn y diwedd oherwydd ei bas esgeulus - y bêl yn cael ei thaflu dros yr ystlys.

Y Dreigiau ddangosodd yr awch yn y chwarter awr agoriadol.

Cafodd yr asgellwr Tonderai Chavhanga o Dde Affrica gyfle i ddangos ei gyflymdra a'i sgiliau.

Ond doedd cicwyr y naill dim ddim ar eu gorau gyda Halfpenny a Tovey yn methu gyda chiciau cosb gymharol hawdd.

Ar ôl 19 munud daeth cais i'r tîm cartref. Y blaenwyr yn gwneud y gwaith caib a rhaw i sugno'r amddiffynwyr, yna pas Laulala yn rhyddhau Alex Cuthbert.

Er taw'r Dreigiau oedd yn mwynhau'r rhan fwyaf o'r meddiant, y Gleision oedd yn llwyddo i fylchu orau.

Y nhw orffennodd yr hanner gryfaf, ac ar ôl sawl cymal o chwarae croesodd Bradley Davies am ail gais y Gleision, a'u rhoi 17-3 ar y blaen.

Am gyfnod fe lwyddodd esgid Tovey i gadw'r ymwelwyr yn y gêm.

Dwy gic gosb i'r Dreigiau ac un i'r tîm cartref yn golygu mantais o 20-9 i'r Gleision.

Yn dilyn cic ddeallus gan Swenney bu bron i Halfpenny sgorio trydydd cais, ond rhywsut neu'i gilydd llwyddodd Adam Hughes i'w rwystro.

Daeth trydydd cais y Gleision ar ôl bylchiad gan Halfpenny. Er iddo gael ei daclo gan Faletau fe ddadlwythodd i Cuthbert.

Gleision: Gavin Henson; Leigh Halfpenny, Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Alex Cuthbert; Ceri Sweeney, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, Ryan Tyrell, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, Paul Tito (capt), Michael Paterson, Sam Warburton, Xavier Rush.

Eilyddion: Marc Breeze, John Yapp, Scott Andrews, Josh Navidi, Maama Molitika, Richie Rees, Dan Parks, Jamie Roberts.

Dreigiau: Martyn Thomas; Tonderai Chavhanga, Adam Hughes, Lewis Robling, Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Nathan Williams, Lloyd Burns, Nathan Buck, Adam Jones, Rob Sidoli, Danny Lydiate, Gavin Thomas, Toby Faletau.

Eilyddion: Steve Jones, Phil Price, Dan Way, Jevon Groves, Darren Waters, Joe Bedford, Anitelea Tuilagi, Will Harries.

Tabl Cynghrair RaboDirect Pro12

Safle Gemau Enillwyd Cyfartal Pwyntiau Bonws Cyfanswm
1. Leinster 10 8 0 3 35
2. GWEILCH 10 7 1 0 34
3. Munster 10 6 0 5 29
3. GLEISION 10 6 0 5 29
4. Glasgow 10 6 0 2 27
6. Treviso 10 5 0 3 23
7. SCARLETS 10 4 1 4 22
8. Ulster 10 5 0 1 21
9. Caeredin 10 4 0 3 19
10. Connacht 10 3 0 3 16
11. DREIGIAU 9 2 0 2 11
12. Aironi 10 1 0 2 6