Hwliganiaeth: Caerdydd ar y brig
- Cyhoeddwyd

Mae gan gefnogwyr clwb pêl droed Caerdydd fwy o orchmynion gwahardd na'r un clwb arall yn Lloegr a Chymru yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref.
Mae gan Gaerdydd 143 o orchmynion mewn grym, 38 gorchymyn yn fwy na Leeds United, sy'n ail yn y tabl gyda 106 gorchymyn a Chelsea, sy'n drydydd gyda 105 gorchymyn.
Mae'r gorchmynion yn golygu bod y cefnogwyr wedi'u gwahardd rhag mwyn i wylio gemau pêl droed.
Mae cyfanswm y bobl sydd wedi cael eu harestio yn ystod gemau pêl droed y timau o Gymru wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywed yr heddlu fod y "nifer uchel" o orchmynion gwahardd yn adlewyrchu eu "gwaith rhagweithiol".
Gall y gorchmynion bara rhwng tair blynedd a 10 mlynedd.
Mae mwy o gefnogwyr Caerdydd ac Abertawe gyda gorchmynion gwahardd mewn lle eleni o'i gymharu â llynedd ond mae llai o ddilynwyr Wrecsam, Casnewydd a Bangor wedi'u gwahardd o gemau pêl droed.
Yn ôl ystadegau'r Swyddfa Gartref nid yw'r nifer o arestiadau sy'n ymwneud â phêl droed erioed wedi bod mor isel.
Yng Nghymru, Gostyngodd y nifer o ddilynwyr Caerdydd a gafodd eu harestio o 117 yn nhymor 2009-10 i 44 yn 2010-11 tra gostyngodd y nifer o ddilynwyr Abertawe a gafodd eu harestio o 63 i 35 yn ystod yr un cyfnod.
Roedd y mwyafrif o'r arestiadau hyn yn ymwneud â thramgwyddau yn erbyn y drefn gyhoeddus neu droseddau yn ymwneud ag alcohol.
Dywedodd Vince Alm, cadeirydd clwb cefnogwyr Clwb Pêl Droed Caerdydd fod y ffigyrau sy'n ymwneud ag arestiadau yn adlewyrchiad mwy cywir o record dilynwyr y clwb yn hytrach na'r gorchmynion gwahardd am fod y llall yn gyswllt â throseddau a gafodd eu cyflawni yn y gorffenol.
"Mae ein record wedi bod yn gwella ers blynyddoedd," meddai Mr Alm.
"Mae mwy o bobl yn dilyn Caerdydd ond mae nifer yr arestiadau wedi gostwng, sy'n dangos ein bod ni ar y trywydd cywir."
Ychwanegodd Mr Alm fod y nifer uchel o orchmynion gwahardd yn fwy na thebyg yn deillio o ddigwyddiad "un tro" yn ystod gêm gwpan yr FA yn erbyn Chelsea yn 2010.
Dywed Heddlu De Cymru fod y nifer isel o arestiadau yn dangos fod y rhan helaeth o gefnogwyr pêl droed yn "ymddwyn yn dda".
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos fod gorchmynion gwahardd yn dal i gael "effaith positif" ddeng mlynedd wedi iddynt gael eu cyflwyno.
Straeon perthnasol
- 23 Rhagfyr 2011
- 25 Mawrth 2011
- 10 Tachwedd 2010
- 29 Tachwedd 2010