Rhyddhau rheithgor achos llofruddiaeth Aamir Siddiqi

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref y llynedd

Mae'r rheithgor yn achos dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio bachgen ysgol o Gaerdydd wedi eu rhyddhau.

Cafodd Aamir Siddiqi, 17 oed, ei drywanu i farwolaeth pan agorodd ddrws ei gartref.

Ymosodwyd hefyd ar ei rieni yn eu cartref yn ardal Y Rhath o Gaerdydd ar Ebrill 11 2010.

Mae Ben Hope a Jason Richards yn gwadu ei lofruddio a cheisio llofruddio ei rieni.

Fe fydd 'na achos arall ym mis Chwefror.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn nodi penderfynaid y llys.

"Fe fydd y tîm yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer yr achos newydd a byddwn yn parhau i gefnogi'r teulu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol