Lladrad arfog: Heddlu'n holi tri o bobl
- Cyhoeddwyd

Dywed yr heddlu fod dau wn, arian a gemwaith wedi eu dwyn
Mae tri o bobl yn cael eu holi gan yr heddlu wedi i ffarmwr gael ei saethu yn ei goes yn ystod lladrad arfog honedig yn ei gartref yn Rhydyclafdy ym Mhenllyn.
Mae ynadon wedi caniatau i'r heddlu holi dau ddyn, 18 a 19 oed, a menyw 24 oed am 36 awr ychwanegol ynghylch y drosedd honedig.
Cafodd y dyn 55 oed ei saethu nos Iau diwethaf wedi i ddau ddyn fynd i'w dŷ rhwng 7pm a 8.45pm, yn ôl yr heddlu.
Dywedodd yr heddlu fod dau wn, arian a gemwaith wedi eu dwyn cyn i'r dynion ddianc mewn car.
Mae'rheddlu'n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101, neu 0300 3300101 yng Nghymru neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- 17 Rhagfyr 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol