Un wedi marw a dau wedi eu hanafu
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 63 oed wedi marw a dau ddyn arall yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Llanilltud Faerdref.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r eiddo yn St Anne's Drive, Llanilltud Faerdref am tua 9:15pm nos Fawrth.
Daeth yr heddlu, diffoddwyr a pharafeddygon o hyd i dri pherson - un wedi marw a dau arall yn anymwybodol.
Credir mai gwenwyn carbon monocsid sy'n gyfrifol.
Aed â'r ddau - yn eu 30au - i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae un ohonynt mewn cyflwr difrifol iawn, a'r llall yn sefydlog.
Dywed Heddlu De Cymru nad yw'n ymddangos bod amgylchiadau amheus i'r digwyddiad.