Eryri: Enwi cerddwr fu farw

Mae'r cerddwr fu farw ar ôl eirlithrad yn Eryri ddydd Sadwrn wedi'i enwi.

Cafodd Martin Richard Coleman, 36 oed, o Fodfari yn Sir Ddinbych ei dynnu lawr gyli wedi i eira gwympo oddi ar gribyn roedd e'n cerdded arno.

Roedd Mr Coleman yn cerdded gyda dwy fenyw yn ardal Glyder pan gwympodd 500 troedfedd (150 metr) tua 2pm ddydd Sadwrn.

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio.

Straeon perthnasol