Gwrthdrawiad trên: Rhyddhau gyrrwr
- Cyhoeddwyd

Mae'r gyrrwr lori gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng trên a lori ar groesfan ger Hendy-gwyn ar Daf wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd ei ryddhau yn ddigyhuddiad ar fechnïaeth yr heddlu tan Ionawr 30.
Cafodd saith o bobl eu hanafu ar y gwasanaeth 9:10am ddydd Llun o Aberdaugleddau i Fanceinion yn dilyn y gwrthdrawiad.
Ddydd Mawrth roedd bysus yn parhau i gludo teithwyr trenau i'r gorllewin o Gaerfyrddin wrth i'r gwaith barhau i ailagor rheilffordd wedi i drên daro lori wair ddydd Llun.
Cafodd gyrrwr y lori, dyn 48 oed o Lanboidy, ei arestio ar amheuaeth o beryglu diogelwch.
Dywedodd cwmni Network Rail bod eu peirianwyr yn ceisio adfer y gwasanaeth arferol cyn gynted â phosib.
Fe darodd un o Drenau Arriva Cymru y lori wair oedd yn llonydd ar groesfan ar draws ffordd anghysbell heb fod ymhell o Henllan Amgoed am tua 9:50am fore Llun.
Roedd bron 60 o deithwyr ar y trên.
Roedd angen triniaeth mewn ysbyty ar bump ohonyn nhw.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.
Straeon perthnasol
- 20 Rhagfyr 2011
- 19 Rhagfyr 2011