Blwyddyn o ymgyrchoedd amgylcheddol yng Nghymru

Protest trigolion Sir Drefaldwyn yn erbyn y Peilonau ym mis Mai Image copyright Other
Image caption Bu trigolion Sir Drefaldwyn yn protestio y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ar fwy nag un achlysur yn ystod y flwyddyn

Blwyddyn o ymgyrchu fu 2011, mewn sawl ystyr. Gwrthdystio yn erbyn cynlluniau ynni ac ymgyrchu ar reoli gwarchodaeth tir.

Yn y Canolbarth, cynyddu mae'r gwrthwynebiad i felinau gwynt - yn enwedig y cannoedd sy'n y broses gynllunio - a chynyddu mae'r ofnau y bydd cannoedd o dyrbeini yn arwain at filltiroedd o beilonau i gario trydan y datblygiadau arfaethedig hynny, i'r Grid Cenedlaethol.

Tra ym Mro Morgannwg y daeth gwrthwynebiad i ddrilio am nwy tan ddaear i'r amlwg gyntaf yng Nghymru.

Mae 'ffracio' - sef y broses o dyllu a chwalu creigiau sy'n cynnwys nwy gyda dŵr, tywod a chemegau, cyn pibellu'r tanwydd i'r wyneb - wedi dod yn air sy'n brawychu rhai pobl sy'n byw rhwng Y Bontfaen a Llanilltyd Fawr.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Protestwyr Sir Drefaldwyn sydd wedi gwneud eu marc yn fwyaf amlwg eleni.

Trefnwyd y brotest fwyaf, hyd yma, ar risiau'r Senedd ym mis Mai gyda thua 1,500 o bobl a phlant yn teithio i Fae Caerdydd. Cafwyd protest fawr arall wrth i gynghorwyr sir Powys gwrdd yn Y Trallwng.

Ar bob cyfle mae protestwyr o Faldwyn yn atgoffa Llywodraeth Cymru mai'i pholisi TAN 8 hi, sydd tu ôl i'r anghytuno yma.

Yn 2005 sefydlwyd 7 ardal yng Nghymru er mwyn annog datblygwyr melinau gwynt i adeiladu tyrbeini yno, ac osgoi cael ffermydd gwynt ar draws y wlad, ac arwain at fwy o wrthwynebiad siŵr o fod. Mae 3 ardal TAN 8 yn y Canolbarth, ac mae'r gwrthwynebiad bellach yn ddwfn.

Myfanwy Alexander o Lanfair Caereinion ydy un o'r arweinwyr ym Mhowys.

"Mae'r ymgyrch yma yn mynd i lwyddo.

"Mae pobl Sir Drefaldwyn ddim yn mynd i dderbyn hyn. Ni sy'n gwybod be i'w wneud yn ein hardal.

"Oedd o'n gychwyn efo peilonau ac wedyn pobl yn gofyn pam oedd y peilonau yn dod ac wedi clywed pa mor aneffeithiol yw'r melinau gwynt, mae pobl wedi gwneud y cysylltiad."

Ffynonellau glân

Llywodraeth Prydain sydd ag awdurdod am gynlluniau ynni mawr - rhai dros 50 megawat. Yn y Canolbarth mae hanner y ffermydd gwynt newydd sydd o fewn y broses gynllunio o dan reolaeth Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) Llywodraeth Prydain, a hanner i'w penderfynu gan Gyngor Powys, ac felly o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru sydd hefyd yng ngofal ynni, dydi polisi TAN 8 ddim yn berthnasol bellach, a bod y llywodraeth yn Llundain yn anwybyddu'r polisi. Ond yn ôl adran DECC, a'r gweinidogion yn yr adran ynni, Charles Hendry a Greg Barker, fe fyddan nhw'n gwrando ar bryderon y cymunedau, ond bod angen mwy o ynni adnewyddol, a bod angen ynni o ffynonellau glan sydd ddim yn chwythu carbon i'r entrychion.

Ffracio am nwy siâl - a'r cais am drwydded i arbrofi tyllu am y nwy anghonfensiynol yma o dan de Cymru ydy man brwydr arall rhwng datblygwyr a phrotestwyr.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Protest arall gan drigolion sir arall - Trigolion Bro Morgannwg y tro hwn yn erbyn ffracio

Wedi i gais i ddrilio am nwy gael ei atal ger pentref Llandw ym Mro Morgannwg, mae'n debyg y bydd apêl a allai ofyn am adolygiad cyhoeddus o chwilio a ffracio am nwy o dan ddaear.

Fel gyda sawl ffynhonnell o egni'r dyfodol, mae trigolion sy'n byw gerllaw yn chwilio am atebion i unrhyw berygl.

"Yr hyn sy'n ein poeni yw bod y broses ei hun yn beryglus iawn," meddai Huw Walters, cynghorydd cymuned yn Llandw.

"Mae 'na gemegau tocsic yn cael eu defnyddio, posibiliadau o ffrwydrau fel sydd wedi eu gweld yn America.

"Tan fod y wyddoniaeth a'r broses yn saff dylen ni ddim ystyried bwrw ymlaen gyda'r gwaith."

Fferm

Mi fu gwrthdystiadau ac ymgyrchoedd cyhoeddus eraill hefyd.

Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd pryderus yng Nghwm Rhymni a chylch Merthyr Tudful i atal adeiladu llosgydd gwastraff gan gwmni Covanta. Gan i'r cwmni Americanaidd dynnu eu cais cynllunio yn ôl, gellir dweud bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus.

Image copyright Other
Image caption Llwyddodd yr Ymddireidolaeth Genedlaethol i godi £1 miliwn i brynu'r fferm yn Eryri

Ers blynyddoedd mi fu pobl Llanwddyn yn anhapus am gyflwr a diffyg gwaith ar Stad Efyrnwy. Ar hyn o bryd mae ymgynghori ar landlordiaid newydd y stad 23,000 erw, gyda'r RSPB a chwmni dŵr United Utilities o bosibl yn prynu rhannau o'r stad.

A chafwyd ymgyrch lwyddiannus gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu ffermdy am £1 miliwn yn Nant Gwynant, Eryri. Cyn hir mi fydd yr Ymddiriedolaeth yn gallu ychwanegu Llyndy Isaf at y portffolio helaeth o eiddo sydd ganddyn nhw yng Nghymru.

O ran gwarchod a rheoli'r amgylchedd cafwyd ymgyrch gan gwmnïau coed masnachol i beidio â chynnwys y Comisiwn Coedwigaeth gyda'r Cyngor Cefn Gwlad na chwaith Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn ffurfio un corff newydd yng Nghymru. Hyd yma, bwrw mlaen â'r cynllun ydy bwriad y llywodraeth.

Cynllun dadleuol

Ac o ran ariannu amaeth yn y dyfodol, yn enwedig cynllun dadleuol fel Glastir sydd i ddechrau yn y flwyddyn newydd, mae Gwyn Jones sy'n ffermio Pen y Cefn ger Bow Street, gyda'r un benbleth sydd gan sawl ffermwr yng Nghymru.

"Mae Cynllun Diwygio CAP yn dod i mewn yn 2013 ac wedyn Glastir.

"Dwi'n ymroi i wneud lot o bethau ond a fydd e werth e?

Image copyright Getty Images
Image caption Ymdrech i leihau gwastraff yw codi tâl ar y bagiau plastig a chynorthwyo'r amgylchedd

"Dwi'n credu y bydd y Glastir cynta' 'ma yn mynd i fod yn well na'r nesa gan nad ydw i'n meddwl y bydd termau'r ail cystal.

"Mae'n ymdrech fawr dros 5 mlynedd a lot o waith."

Un ymgyrch sydd bellach yn bolisi ydy codi arian am fagiau papur a phlastig mewn siopau.

Fe ddaeth y "ddeddf" honno i rym ar Hydref 1, yn annog busnesau i godi 5 ceiniog am bob bag papur a phlastig sydd ond i'w ddefnyddio unwaith, ac yn cael ei roi i gwsmeriaid. Tybed faint o newid wnaeth hynny wrth i bobl fynd ati i siopa munud olaf cyn y Nadolig eleni? A thybed faint o arian sydd wedi ei godi ar gyfer achosion gwyrdd?

Gellir cysylltu gyda Iolo ap Dafydd drwy Twitter @apdafyddi gyda straeon, eich barn ac ymateb.

Straeon perthnasol