Norofirws yn taro pum ward yng Nghasnewydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun, Cafodd wardiau yn Ysbyty Brenhinol Gwent eu heffeithio

Mae pum ward mewn dau ysbyty yng Nghasnewydd wedi dioddef oherwydd firws gaeafol Norofirws dros y penwythnos.

Dywed Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod wardiau yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Sant Gwynllwg wedi cael eu heffeithio gan yr haint.

Daeth cais i ymwelwyr beidio mynd ar y wardiau os ydynt wedi gweld symptomau dros y 48 awr blaenorol neu wedi dod i gysylltiad agos gyda rhai sydd wedi cael symptomau.

Mae Norofirws yn heintus dros ben ac yn achosi cyfog, chwydu a'r dolur rhydd.

Mae'r symptomau yn dechrau rhwng 12 a 48 awr wedi i'r person gael eu heintio, ac yn para am rhwng 12 a 60 awr.

Ysbyty Brenhinol Gwent yw ysbyty cyffredinol rhanbarthol yr ardal gyda thua 775 o welyau, ac mae'n delio gyda chleifion allanol, cleifion dydd a chleifion mewnol.

Ysbyty cymunedol a iechyd meddwl yw Sant Gwynllwg gyda phum ward meddygaeth gymunedol a thair ward iechyd meddwl.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol