Damwain: Pensiynwr yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr yn ei chwedegau yn yr ysbyty wedi i gar ei daro am 12.45pm brynhawn Gwener.
Aed â'r dyn i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl y ddamwain yn Boulevard de Nantes yn y ddinas ger Llys y Goron.