Buddugoliaeth i Lanelli yn erbyn Aberystwyth

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Wedi taith i Goedlan Y Parc yn Aberystwyth nos Wener ennill oedd hanes Llanelli o ddwy gôl i un.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Llanelli yn aros ar frig y tabl am y penwythnos am fod ganddyn nhw bedwar pwynt yn fwy na Bangor sy'n ail.

Daeth y tair gôl o fewn chwe munud yn yr hanner cyntaf.

Antonio Corbisiero gafodd y gôl gyntaf i'r tîm cartref wedi 22 munud er mai chwaraewr Llanelli ydio gan iddo rwydo i'w gôl ei hun.

Chris Venables rwydodd dau funud yn ddiweddarach i'r ymwelwyr.

Rhys Griffiths gafodd ail Llanelli wedi 27 munud.

Dwy gêm sydd gan y ddau dîm cyn y bydd y gynghrair yn cael ei rhannu yn y flwyddyn newydd.

Nos Wener

Aberystwyth 1-2 Llanelli

Dydd Sadwrn

Y Drenewydd v Airbus (14:30)

Port Talbot v Bangor (14:30)

Prestatyn v Castell-nedd (14:30)

Caerfyrddin v Y Seintiau Newydd (15:45)

Dydd Sul

Bala v Lido Afan (14:30)

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports

Dydd Gwener, Rhagfyr 16, 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol