Dyfodol dwy amgueddfa yn y fantol
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd dwy amgueddfa yn gorfod cau fel rhan o ymdrechion Cyngor Sir Caerfyrddin i arbed £8.5 miliwn y flwyddyn nesa.
Yn Ionawr bydd cynghorwyr yn penderfynu dyfodol amgueddfa Parc Howard, Llanelli, ac amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili.
Byddai cau'r ddau le yn arbed tua £150,000.
Mae'r sir wrthi'n cynnal arolwg o'i holl wasanaethau er mwyn gweld lle mae modd arbed arian.
'Cyllideb anodd'
Dywedodd Kevin Madge, is arweinydd y Cyngor, nad oedd modd diystyru'r posibilrwydd o gau'r amgueddfeydd.
"Rydym yn wynebu cyllideb anodd iawn y flwyddyn hon.
"Mae'n rhaid i ni benderfynu beth sy'n angenrheidiol, a phethau sydd ddim yn angenrheidiol," meddai.
"Wrth fynd trwy'r holl restr mae'n bosib y byddwn yn gallu achub ambell i wasanaeth, ond y bydd yn rhaid rhoi'r gorau i eraill."
Cafodd Parc Howard ei godi yn 1885 a'i rhoi fel rhodd i dre Llanelli gan Sir Stafford a'r Foneddiges Howard yn 1912.
Ar hyn o bryd mae'n gartre i gasgliad o grochenwaith Llanelli, celfyddyd a dogfennau hanes.
Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn cynnwys bwyelli o'r Oes Gerrig, esgyrn mamoth ac aur Rhufeinig. Mae'r adeilad yn dyddio nôl i 1290.
Pe bai'r ddau le yn cau byddai chwech o bobl yn colli eu gwaith.