Gleision i ddychwelyd i Barc yr Arfau?

Parc yr Arfau Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gadawodd Gleision Caerdydd Barc yr Arfau ym mis Mai 2009

Mae un o hyfforddwyr Gleision Caerdydd yn credu y gallai'r tîm ddychwelyd i chwarae ym Mharc yr Arfau.

Dyma drydydd tymor y Gleision yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond mae nifer y cefnogwyr wedi bod yn siomedig ac mae hi wedi bod yn anodd creu awyrgylch yno.

Dim ond 6,012 oedd yn y stadiwm, sydd hefyd yn gartref i din pêl-droed Caerdydd, ar gyfer y gêm yn erbyn Caeredin yng Nghwpan Heineken.

Dywedodd Gareth Baber ei fod yn credu bod y symud yn ôl i Barc yr Arfau yn bosibilrwydd.

Ym mis Mai 2008 fe wnaeth y Gleision arwyddo cytundeb i chwarae pob un gêm gartref yn y stadiwm newydd am yr 20 mlynedd nesaf.

Yn ystod y ddau dymor cyntaf llwyddodd y Gleision i ddenu torfeydd o tua 10,000-11,000.

Hwb gan y dorf

Ond mae 'na bryderon yn gyffredinol am nifer torfeydd y gemau rhanbarthol.

Mae Baber yn credu y byddai symud yn ôl yn rhoi hwb i'r chwaraewyr wrth iddyn nhw gael mwy o dorf.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae'r Gleision yn rhannu stadiwm efo'r tîm pêl-droed

"Mae pobl yn chwilio am ffyrdd o aildanio'r egni yn y dorf oedd yna ym Mharc yr Arfau," meddai.

"Fel tîm ac fel carfan rydym yn y stadiwm a dyna lle fyddwn ni ac mae'n rhaid i ni ddal at hynny.

"Yr hyn sy'n cael effaith ar nifer y torfeydd yw ein bod wedi cael Cystadleuaeth Cwpan y Byd ac mae llawer wedi gweld lot o rygbi yn ddiweddar yn ogystal â'r cyfnod economaidd anodd.

"Mae'n anodd i bobl ddod bob wythnos, yn enwedig ar drothwy'r Nadolig.

"Mae'n anodd i bobl wario arian ar docyn i'r gêm pan mae hi ar y teledu."

Ond dywedodd fel carfan bod cael stadiwm lawn yn llawer gwell a bod yr awyrgylch wedyn yn drydanol.

Mae Clwb Rygbi Caerdydd wedi parhau i chwarae ym Mharc yr Arfau yn Uwchgynghrair Cymru ers i'r Gleision adael yn 2009 i'w cartref newydd gwta ddwy filltir i ffwrdd.

Cefnogwyr pêl-droed

Mae'r Gleision yn rhannu eu stadiwm gyda'r tîm pêl-droed sy'n cael cefnogaeth gref ar gyfer eu gemau.

Yn Abertawe mae'r tîm pêl-droed a thîm rygbi rhanbarthol Y Gweilch yn rhannu stadiwm.

Ac mae llawer mwy yn mynychu'r gemau pêl-droed na'r gemau rygbi yn y Liberty.

Dydi'r Scarlets ddim wedi ei chael yn hawdd llenwi eu cartref newydd, Parc y Scarlets ers iddyn nhw adael Parc y Strade.

Mae Dreigiau Gwent wedi aros yn eu cartref traddodiadol yn Rodney Parade ac wedi cychwyn ail-ddatblygu'r safle.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.