Oedi mewn gwasanaethau trên
- Cyhoeddwyd
Bu'r rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr ar gau ddydd Mercher ar ôl i offer signal gael ei daro gan fellt.
Cafodd y gwasanaeth ei ddargyfeirio ar hyd rheilffordd Bro Morgannwg, gan ychwanegu at hyd y daith.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru fod pobl yng ngorsafoedd Pencoed, Llanharan a Phontyclun cael eu cludo ar y ffyrdd.
Fe wnaeth Trenau Arriva Cymru a Network Rail ymddiheuro am yr oedi.
Dywedodd llefarydd y byddant yn rhoi gwybod i bobl mor fuan ag sy'n bosib pryd mae disgwyl i'r gwasanaeth redeg yn ôl yr arfer.