Forest Green 0-2 Casnewydd

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Mae Casnewydd wedi cyrraedd ail rownd tlws yr FA yn dilyn buddugoliaeth yn Forest Green nos Fawrth.

Roedd y ddau dîm wedi cwrdd mewn gêm ddiflas, ddi-sgôr ar Barc Sbytty brynhawn Sadwrn, gan olygu bod rhaid cael ail chwarae.

Ond doedd dim angen tri chynnig ar dîm Justin Edinburgh.

Daeth gôl yn y ddau hanner i sicrhau'r fuddugoliaeth a chanlyniad campus yn erbyn y tîm sy'n nawfed yn Uwchgynghrair Blue Square bet.

Casnewydd fydd unig gynrychiolwyr Cymru yn yr ail rownd gan i Wrecsam golli gartref yn erbyn Hinckley ddydd Sadwrn diwethaf.