Cytundeb anferth i gwmni bach

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Mae Sany yn cyflogi mwy na 70,000 o weithwyr drwy'r byd

Mae busnes bach yng Ngheredigion wedi arwyddo cytundeb gwerth miliynau o bunnau gyda chwmni o China i werthu eu peiriannau yn y DU.

Mae Tramor Cyf. o Aberaeron yn bwriadu creu mwy nag 20 o swyddi oherwydd y cytundeb gyda Grŵp Sany.

Sany yw un o wneuthurwyr peiriannau adeiladu mwya'r byd, ac yn cyflogi dros 70,000 o bobl ar draws y byd.

Cafodd Tramor ei sefydlu er mwyn rhedeg delwriaeth yr offer yn y DU.

Mae cynnyrch Sany yn cynnwys craeniau mawr a pheiriannau adeiladu ffyrdd.

Daw'r cytundeb ar drothwy cyfarfod o genhadaeth masnachu China a'r DU yng Nghaerdydd ddydd Iau.

ac yn dilyn hwnnw bydd cinio busnes i fusnesau bach a chanolig yn China a'r DU.

Y flwyddyn newydd

Dywedodd cyfarwyddwr Tramor Cyf, John Lewis, fod ei gwmni wedi sicrhau'r cytundeb ar ôl hedfan i China a chnocio ar ddrws Sany.

"Roeddem wedi gweld yr angen am fath gwahanol o beiriannau yn y DU, ac fe wnaethom ni lawer o ymchwil yn y farchnad ar gwmnïau posib," meddai.

"Fe gawsom gyngor gan gydweithiwr i fynd i China a chyfarfod gyda Sany, ac fe wnaethon ni hynny.

Disgrifiad, John Lewis, cyfarwyddwr Cwmni Tramor yn trafod y cytundeb newydd gyda Garry Owen

"Dim ond bryd hynny y gwnaethon ni sylweddoli maint y cwmni a'r brand Sany, a bod gallu cynhyrchu'r cwmni ar faint sydd heb gael ei weld yn y DU erioed o'r blaen."

Bydd y peiriannau cyntaf yn cyrraedd Cymru yn y flwyddyn newydd, ond oherwydd natur cymhleth peiriannau Sany bydd rhai i rai o beirianwyr y cwmni ddod o China i fyw yng Nghymru am dair blynedd er mwyn hyfforddi staff Tramor.

Ychwanegodd Mr Lewis: "Mae'r goblygiadau posib i Gymru yn anferth, gan fod potensial yma i ddenu buddsoddiad mawr i Gymru ac i'r DU.

"Mae peiriannau tebyg sydd ar gael yn y farchnad yn dechrau am £50,000 am beiriant saith tunnell ac yn codi i hyd at £350,000 am beiriant 65 tunnell neu fwy."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Mae cwmni Sany yn cynhyrchu offer adeiladu ffyrdd

'Cynnig cyfleoedd'

Dywedodd Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, ei bod hi'n dipyn o gamp i gwmni bach o Gymru i arwyddo cytundeb cyfyngedig gydag un o gwmnïau peiriannau adeiladu mwya'r byd.

Ychwanegodd: "Mae China yn cynnig cyfleoedd masnachu anferth i gwmnïau o Gymru, ac rwyf wrth fy modd yn clywed sut y mae Tramor wedi creu cysylltiadau gyda Sany ac y bydd y genhadaeth fasnachu yn nodi dechrau perthynas agos rhwng y ddwy wlad."

Mae Sany'n cyflogi mwy na 70,000 o bobl ar draws y byd, ac mae ganddynt safleoedd cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, Yr Almaen, India, Indonesia a Brasil.

Bydd Tramor yn creu mwy nag 20 o swyddi mewn amryw feysydd gan gynnwys peirianneg, gwerthiant, cyfrifon a gweinyddu.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol