Alex Jones wedi gadael Striclty Come Dancing
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes Alex Jones wedi gadael cyfres Strictly Come Dancing.
Llwyddodd cyflwynwraig The One Shoe i gyrraedd y rownd gynderfynol.
Ond gyda dau o'r pump yn gadael nos Sul fe ddaeth cyfnod Jones ar y gyfres i ben.
Bu hi'n dawnsio gyda James Jordan yn ystod y gystadleuaeth ac wedi dwy ddawns nos Sadwrn roedd hi ar waelod y rhestr.
Doedd pleidleisiau ffôn y cyhoedd ddim yn ddigon i sicrhau y byddai Jones yn cael mynd i'r rownd derfynol yn Blackpool.
Yn ogystal â hi fe adawodd Holly Valance y gystadleuaeth nos Sul gyda Harry Judd; Jason Donovan a Chelsee Healey yn mynd drwodd i'r rownd derfynol y penwythnos nesaf.
Wrth adael y gystadleuaeth dywedodd Jones ei bod wedi cael "profiad anhygoel!.
Nos Sadwrn fe wnaeth Jones ddawnsio'r Waltz a'r Salsa.
Dywedodd bod ei chyfnod ar y sioe wedi bod "yn wych" ac eithrio camgymryd ei chwith a'i dde yn achlysurol wrth ddawnsio.
"Dwi wedi caem amser arbennig a phan fyddai'n hen a'm gwallt yn llwyd fe fyddai'n edrych yn ôl ar fy nghyfnod a meddwl ei fod yn amser gwych."
Fe wnaeth Jordan ganmol ei hymroddiad.
"Pe tae yna dlws ar gyfer y dawnsiwr sydd wedi gwella mwya', yn ddi-os fe fyddet ti'n ennill hwnnw.
"Fe hoffwn ychwanegu bod pwy bynnag fydd yn cael y cyfle i weithio efo ti yn y dyfodol yn lwcus iawn iawn.
"Ti wedi bod yn wych i gyd-weithio efo ac mae hi wedi bod yn bleser."
Roedd Jones yn cystadlu gyda dau arall â chysylltiad â Chymru, y pêl-droediwr Robbie Savage a adawodd yr wythnos diwethaf a Russell Grant, sy'n byw ym Maentwrog, a adawodd dair wythnos yn ôl.
Straeon perthnasol
- 5 Rhagfyr 2011
- 22 Tachwedd 2011
- 7 Medi 2011