'Elf-steddfod yn torri record byd'
- Cyhoeddwyd

Y coblynnod yn eu dillad coch neu wyrdd
Fe wnaeth Pen-y-bont ar Ogwr lwyfannu 'Elf-steddfod' yng nghanol y dref ddydd Sadwrn.
Yn ôl y trefnwyr, llwyddwyd i dorri'r record am y nifer o bobl wedi gwisgo fel coblynnod, gyda 936 yn gwneud hynny.
Blwyddyn ddiwethaf daeth 720 o bobl i'r dref yn gwisgo dillad coch neu wyrdd - mae Cyngor Tref Pen-y-bont yn darparu hetiau i'r 'coblynnod'.
Am 2pm fe wnaeth y coblynnod ymgynnull yng nghanol y dref er mwyn ceisio torri record y flwyddyn ddiwethaf.
Ffynhonnell y llun, Other
Mae Cyngor Tref Pen-y-bont yn darparu hetiau i'r 'coblynnod'
Cyn hynny dinas Efrog Newydd oedd yn dal y record.
Yn ôl rheolwraig canol y dref, Rhiannon Kingsley: "Rydym wedi maeddu Efrog Newydd.
"Roedd y coblynnod o bob maint a siap - o fabanod i neiniau a theidiau.
"Mae'n llawer o hwyl, a byddwn yn ôl y flwyddyn nesaf gan anelu at ddenu mwy na 1,000."