Cymru yn ennill y plât
- Cyhoeddwyd

Owen Williams yn sgorio cais i Gymru
Mae Cymru wedi ennill y plât yng nghystadleuaeth ddiweddara'r gyfres saith-bob-ochr yn Ne Affrica, yn dilyn buddugoliaeth nodedig 48-0 yn erbyn Fiji.
Owen B Williams sgoriodd ddau o wyth cais Cymru yn erbyn Fiji.
Sgoriwyd y ceisiau eraill gan Owen P Williams, Tom Habberfield, Alex Walker, Rhys Shellard, Harry Robinson a Rhys Patchel.
Dywedodd capten Cymru Richie Pugh: "Mae rhwystro Fiji rhag cael yr un pwynt yn un peth, ond mae sgorio cymaint â hynny yn rhyfeddol".
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Tom Prydie yn sgorio un o saith cais Cymru yn erbyn Zimbabwe
Roedd Cymru wedi maeddu Ffrainc 24-20 yn y rownd gynderfynol ar ôl colli i Samoa yn rownd go-gynderfynol y Cwpan.
Roedd Cymru wedi rhoi crasfa i Zimbabwe a Phortiwgal yng ngrŵp D cyn colli i Fiji.
Yna fe gafwyd y golled yn erbyn Samoa 21-12.