Llanelli ar frig y tabl

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunNot Specified

Cwta fu teyrnasiad Bangor ar frig Uwchgynghrair Cymru wrth i Lanelli drechu Prestatyn ddydd Sul.

Jason Bowen roddodd Llanelli ar y blaen wedi dim ond 6 munud, ond fe ddaeth Prestatyn yn gyfartal cyn yr egwyl diolch i gynnig Paul O'Neill.

Ond fe ddaeth dwy gôl mewn dau funud gan Craig Williams i sicrhau'r triphwynt i Lanelli er gwaethaf gôl gysur Ross Stephens yn y funud olaf i'r ymwelwyr.

Roedd Bangor wedi codi i'r brig ar ôl ennill yn erbyn Y Bala nos Wener.

Daeth y gôl gyntaf ar Ffordd Farrar i'r ymwelwyr wrth i Rees Darlington sgorio wedi chwe munud.

Ond rhwydodd Les Davies wedi 32 munud i Fangor i sicrhau gêm gyfartal ar yr hanner.

Ond cafodd Davies ail gôl y tîm cartref 11 munud wedi'r gêm ail gychwyn.

Bu'r dyfarnwr yn brysur gyda'r cardiau wrth i chwech o chwaraewyr Bangor a thri o rai'r Bala wedi cardiau melyn.

Cafodd Chris Roberts ddau gerdyn melyn o fewn dau funud i Fangor wedi'r 90 munud a bu'n rhaid iddo adael y cae gyda'r tîm cartref i lawr i 10 dyn am y munudau oedd yn weddill.

Roedd gan Y Seintiau Newydd gyfle i godi uwchben Bangor wrth deithio i Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Ond y tîm cartref aeth ar y blaen ar Goedlan y Parc wrth i Geoff Kellaway rwydo wedi 55 munud.

Er i Greg Draper unioni'r sgor ar ôl 63 munud, bu'n rhaid i'r Seintiau fodloni ar bwynt.

Canlyniadau'r penwythnos

Nos Wener -

Bangor 2-1 Bala

Dydd Sadwrn -

Lido Afan 3-2 Y Drenewydd

Airbus UK 3-1 Caerfyrddin

Aberystwyth 1-1 Y Seintiau Newydd

Dydd Sul -

Llanelli 3-2 Prestatyn

Castell-nedd v Port Talbot - Wedi ei gohirio am fod y cae dan ddŵr

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports

Dydd Sul, Rhagfyr 11, 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol