Rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, yw rheolwr y mis

Malky McKay Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Malky Mackay ddaeth i'r brig yn erbyn tri arall oedd wedi eu henwebu

Rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, yw enillydd rheolwr y mis am fis Tachwedd yn y Bencampwriaeth.

Ni wnaeth yr Adar Gleision golli gêm yn ystod y mis gan ennill 13 pwynt o'r 15 oedd ar gael, gyda phedair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal.

Cafodd Mackay ei enwebu gyda Sam Allardyce (West Ham), Derek McInnes (Bristol City) a Keith Hill (Barnsley).

Dywedodd Mackay: "Rwyf wrth fy modd yn derbyn yr anrhydedd yma ar ran y clwb cyfan. Mae'n dod yn sgil llawer o waith caled gan y chwaraewyr.

"Cysondeb yw'r allwedd, ac mae'r staff wedi gweithio'n galed iawn gyda'r chwaraewyr.

"Mae pob rheolwr yn ceisio am gysondeb. Rydym wedi llwyddo i gael y tîm i asio ac i chwarae i safon uchel yn gyson."

Cafodd Peter Whittingham ei enwi ar y rhestr fer ar gyfer chwaraewr y mis, ond Billy Sharp o Doncaster - clwb cyn-reolwr Wrecsam Dean Saunders - gipiodd y wobr.

Mae Mackay, a olynodd Dave Jones fel rheolwr yn yr haf, wedi arwain Caerdydd i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth.

Y tymor diwethaf, enillodd wobr rheolwr y mis am fis Mawrth gyda'i glwb ar y pryd, Watford.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.