Difrod tân yn costio £1m

Mae'r difrod a gafodd ei achosi gan dân ar safle masnachwyr deunydd adeiladu yn y Trallwng wedi costio tua £1m.

Digwyddodd y tân yn Boys and Boden pan gafodd pum peiriant gwerth £200,000 yr un eu difrodi.

Chafodd neb ei anafu gan y tân ddechreuodd tua 2pm ddydd Mawrth.

Hwn oedd yr ail dân yn y ffatri yn ystod y pum mis diwethaf.

Gwyntyll

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Dean Hammond, fod y tân wedi dechrau mewn gwyntyll ond fe ledodd a chwympodd rhan o'r adeilad.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio na fyddai llawer o oedi cyn i'r cwmni ddechrau cyflenwi eu cwsmeriaid unwaith eto.

Anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru chwe injan ac un injan arbenigol i'r tân yn Heol y Felin.

"Rwy wedi digalonni gan hyn," meddai Mr Hammond.

"Mae'r cwmni yswiriant wedi amcangyfrif y bydd rhaid inni amnewid y pum peiriant ond rwy'n obeithiol y byddan ni'n llwyddo i gael dau o'r peiriannau i weithio eto.

"Os byddwn ni'n llwyddo i redeg y ddau beiriant am 24 awr y dydd am wythnos fe fyddwn ni'n llwyddo i ddelio â thagfa'r archebion.

"Er hynny dim ond un rhan o ddeg o'r safle sydd wedi cael ei effeithio."

Ym mis Gorffennaf cafodd pum injan dân eu hanfon i'r un safle pan ddechreuodd dân ym mondo un o'r adeiladau.

Cafodd Boys and Boden ei sefydlu ym 1895 ac mae'r cwmni yn cyflogi 160 o bobl ym mhedwar safle gwahanol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.