Pobl Tywyn yn creu golygfa'r Enedigaeth

Genedigaeth y Nadolig Image copyright Other
Image caption Pobl leol sydd yn cymryd rhan cymeriadau Genedigaeth y Nadolig yn Nhywyn

Mae golygfa Stori'r Geni yn Nhywyn eleni yn cynnwys wynebau fydd yn gyfarwydd i bobl leol.

Oherwydd aelodau o eglwys y Santes Fair yn y dref sydd wedi cymryd rhan cymeriadau stori'r Nadolig.

Wedi i aelodau'r eglwys wisgo fel y cymeriadau tynnwyd llun o'r olygfa a'i chwyddo ar blastig trwchus.

Mae rhannau Mair, Joseff a'r baban Iesu yn cael eu chwarae gan deulu ifanc sydd yn mynychu'r eglwys.

Dywedodd y Parchedig Canon Clive Southerton, Offeiriad Cysylltiol yr eglwys: "Y syniad yw ceisio mynd â'r Nadolig i'r gymuned ac mae wedi cael derbyniad da iawn.

"Cawsom wasanaeth hosbis ddydd Llun diwethaf a daeth llawer o bobl o'r gymuned i'r gwasanaeth ac roeddent yn tynnu lluniau ac yn siarad am ba mor wych ydoedd."

Mae golygfa'r Enedigaeth yn wynebu'r heol wrth yr eglwys mewn blwch mawr bren i'w ddiogelu rhag y tywydd.

Cafodd y blwch ei wneud gan Mike Petersen a Harry Edwardson sydd hefyd yn chwarae rhannau brenin a bugail yn yr olygfa.

Dywedodd y Parchedig Southerton: "Mae'n wych ac yn ddarn trawiadol o gelf ond yn fwy 'na hynny mae'n cynnwys pobl leol ac yn mynd â'r Nadolig iddynt."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.