Canslo marchnad Nadolig Wrecsam oherwydd y tywydd

Wrecsam
Image caption Mae'r farchnad yn cael ei chynnal yng nghanol Wrecsam

Mae pryder am dywydd garw wedi achosi i farchnad Nadolig Wrecsam gael ei chanslo.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam bod trefnwyr y farchnad wedi gorfod ei chanslo oherwydd gwyntoedd cryfion.

Ond fe fydd rhai stondinau yn cael eu cynnal yn Eglwys San Silyn yng nghanol y dref.

Dywedodd Alex Jones, rheolwr tafarn y Bank ar Stryd Fawr Wrecsam: "Mae'n biti, oherwydd dyma'r peth gorau mae Wrecsam yn ei drefnu.

"Roeddwn i wedi trefnu cael staff ychwanegol ond dwi wedi gorfod eu canslo ac maen nhw wedi colli oriau.

"Yn ffodus, cawsom y newyddion cyn i ni baratoi bwyd ychwanegol ar gyfer y diwrnod."

Dywedodd Mr Jones bod mwy na 3,000 o bobl wedi mynychu'r digwyddiad ar Stryd Fawr a Stryd yr Eglwys, y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae iechyd a diogelwch yn dod yn gyntaf," dywedodd. "Ond mae'n biti na allai'r farchnad fod wedi cael ei threfnu rhywdro eto neu fod rhywbeth arall yn digwydd yn ei lle."

Dywedodd Naomi Davies o Eglwys San Silyn y byddai stondinau bwyd, crefftau a gemwaith yn cael eu cynnal tu fewn i'r eglwys o ganol dydd ymlaen.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.