Ymchwiliad i system arholi addysg

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
CBAC: "Mae'r seminarau'n cadarnhau arweiniad sydd wedi cael ei roi i athrawon ers 2008"

Mae Gweinidog Addysg San Steffan, Michael Gove, wedi gorchymyn ymchwiliad i system arholi addysg yn Lloegr, ar ôl i bapur newydd y Telegraph recordio arholwyr yn rhoi cyngor i athrawon ar sut i wella eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch.

Yn ôl y papur mae athrawon yn talu £200 y dydd i fynychu seminarau gyda'r uwch arholwyr.

Mae Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) hefyd ymysg y rhai sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad, fel bwrdd sy'n cynnig seminarau i athrawon yn Lloegr.

Mewn datganiad a roddwyd i'r Telegraph gan CBAC, mae'r seminarau'n cadarnhau arweiniad sydd wedi cael ei roi i athrawon ers 2008.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol