Anghydraddoldeb iechyd yn tyfu
- Cyhoeddwyd

Mae'r anghydraddoldeb rhwng iechyd pobl mewn ardaloedd difreintiedig a rhai cyfoethog yn tyfu, yn ôl adroddiad.
Mae dynion yn yr ardaloedd mwyaf tlawd yn debyg o farw naw mlynedd cyn rhai yn y mannau mwyaf cefnog, yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ar gyfartaledd mae pobl Cymru yn byw yn hwy - mae disgwyliad oes menywod wedi cyrraedd 81 mlwydd oed, 77 mlwydd oed ar gyfer dynion.
Ond mae'r ffigyrau yn amrywio ar draws y wlad - er enghraifft mae disgwyl i bobl yng Ngheredigion a Sir Fynwy fyw tua phum mlynedd yn fwy na phobl ym Merthyr Tydfil a Blaenau Gwent.
Un achos pryder yw bod y gwahaniaeth rhwng ardaloedd cyfoethog a rhai difreintiedig wedi tyfu yn y ddegawd ddiwethaf.
Mae disgwyl i ddynion yn y mannau tlotaf farw naw mlynedd cyn rhai mewn llefydd cefnog - ffigwr sy'n uwch nag yn 2005.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y rhesymau am y gwahaniaeth yn gymhleth, ond eu bod nhw'n llwyddo i daclo problemau fel goryfed, ysmygu a diffyg ymarfer corff.
Straeon perthnasol
- 4 Rhagfyr 2011
- 25 Tachwedd 2011
- 10 Tachwedd 2011
- 1 Tachwedd 2011