JCB yn cyflogi mwy o staff wrth greu injan newydd

Injan math 4, fydd yn cael ei gynhyrchu'r flwyddyn nesa' Image copyright Other
Image caption Bydd y buddsoddiad £31m yn galluogi'r cwmni i greu math newydd o injan, fydd yn cael ei chynhyrchu erbyn 2016

Mae cwmni JCB wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £31 miliwn mewn safleoedd cynhyrchu yng ngogledd Cymru a chanolbarth Lloegr.

Fe fydd y buddsoddiad yn arwain at greu dros 300 o swyddi gan gynnwys swyddi ar eu safle yn Wrecsam.

Dywed y cwmni fod yr arian yn cael ei wario ar ddatblygu injan newydd.

Bydd 300 o swyddi yn cael eu creu mewn ffatrïoedd yn Wrecsam, Swydd Derby a Swydd Stafford rhwng 2016 a 2021.

Doedd y cwmni ddim yn fodlon manylu ar y ffigurau, ond dywedon nhw y bydd "nifer sylweddol" o swyddi'n cael eu creu ar eu safle yn Wrecsam pan fydd yr injan newydd yn cael ei chynhyrchu o 2016 ymlaen.

Yn ogystal â hyn bydd yna 50 o swyddi peirianyddol uwch newydd yn cael eu creu yng nghanolfan ymchwil y cwmni yn Foston, Swydd Derby.

Ar hyn o bryd mae'r safle yn Wrecsam yn cyflogi 350, ond dwy flynedd yn ôl cafodd 240 eu diswyddo oherwydd y sefyllfa economaidd.

Dywedodd prif weithredwr JCB, Alan Blake, y bydd yr injan newydd yn fwy effeithiol ac yn fwy ecogyfeillgar.

Mae nifer o ddiswyddiadau wedi bod yn y cwmni dros y blynyddoedd diwethaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.