Canolfan Dewi Sant i gael ei dymchwel
- Cyhoeddwyd

Bydd rhan helaeth o Ganolfan Siopa Dewi Sant yn Abertawe yn cael ei ddymchwel wedi i'r safle gael ei brynu gan Gyngor y Ddinas a Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth a'r cyngor wedi datgan bod y prosiect yn rhan o'u cynlluniau i adfywio'r ddinas.
Bydd y neuadd farchnad dan do ac unedau gwag eraill a gafodd eu hadeiladu ar ddechrau'r 1980au yn cael eu dymchwel ac yn cael eu defnyddio fel maes parcio yn y tymor byr.
Ni fydd tenantiaid fel cwmni Iceland a chwmni Offerynnau Cerdd Crane yn cael eu heffeithio.
Strategaeth siopa
Dywedodd Cyngor Abertawe y byddai'r safle yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio ar gyfer 160 o gerbydau tan i'r hinsawdd economaidd wella.
Y disgwyl yw i'r gwaith ddechrau ar y safle, sydd yn ymyl Canolfan Siopa'r Quadrant a gyferbyn ag Eglwys y Santes Fair, ym mis Mawrth 2012.
Dywedodd cyngor y ddinas y bydden nhw'n cydweithio â'u partner datblygu, Hammerson, i gynnwys y safle yn eu strategaeth siopa ar gyfer canol y ddinas.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Chris Holley: "Mae hwn yn safle pwysig iawn yng nghanol y ddinas ond mae'r rhan fwyaf ohono'n wag ac erbyn hyn mae'n andwyo ein bwriad i wella manwerthu yng nghanol y ddinas.
"Mae'n amlwg na all canol y ddinas gael ei adfywio heb help gan y sector cyhoeddus.
"Mae'r penderfyniad i brynu'r safle yn rhoi'r cyfle inni weithio gyda'n partner datblygu, Hammerson, i greu cynllun i ailddatblygu'r safle ac adfywio canol y ddinas."
Prisiad allanol
Nid oedd y cyngor am ddatgan faint wnaethon nhw dalu am y safle i'r cyn-berchnogion, Threadneedle Estates.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi derbyn cyngor economaidd a phrisiad allanol ynglŷn â phrynu'r safle.
Dywedodd y Gweinidog Dros Dai ac Adfywio, Huw Lewis, fod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu cyllid ar gyfer y cytundeb.
"Abertawe yw'r ail ddinas fwyaf yng Nghymru ac o ganlyniad mae ganddi ran bwysig i hybu Cymru y tu mewn i'r Deyrnas Unedig a dros y môr, yn enwedig yn awr bod tîm pêl droed y ddinas yn fyd enwog.
"Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun hwn i ddymchwel Canolfan Dewi Sant i ddatblygu canol y ddinas yn dal i hybu rhagolygon adfywio tymor hir Abertawe."
Straeon perthnasol
- 5 Mawrth 2007
- 22 Mehefin 2011