Y Drenewydd yn cael eu cosbi

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunNot Specified

Mae Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru wedi tynnu tri phwynt o gyfanswm Y Drenewydd fel cosb.

Mewn gwrandawiad o Gomisiwn yr Uwchgynghrair, fe gafwyd y clwb o'r canolbarth yn euog o fod ag aelodau o'r tîm nad oedd yn gymwys i chwarae.

Doedd y chwaraewyr ddim wedi derbyn caniatâd rhyngwladol i chwarae'r gemau yn erbyn Caerfyrddin ar Awst 13 ac Aberystwyth ar Awst 19 eleni.

Roedd gan y clwb yr hawl i apelio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn erbyn y dyfarniad, ond fe ddewison nhw beidio â gwneud hynny.

Deellir fodd bynnag bod clwb Y Drenewydd yn ystyried her gyfreithiol yn erbyn y dyfarniad.

Bydd y gosb o dri phwynt yn dod i rym yn syth.

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:

Rhagfyr 6, 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol