Angladd Gary Speed i gael ei gynnal yr wythnos hon

Gary Speed a'i wraig Louise Image copyright PA
Image caption Mae Gary Speed yn gadael gwraig a dau o blant

Daeth cyhoeddiad y bydd angladd cyn-reolwr pêl-droed Cymru, Gary Speed, yn cael ei gynnal yr wythnos hon.

Bydd yr angladd a'r gwasanaeth yn breifat i'r teulu a ffrindiau agos a dim ond trwy wahoddiad y bydd modd mynychu.

Dywedodd ei wraig, Louise, fod y teulu yn gwerthfawrogi'n arw'r holl deyrngedau hael a didwyll gan y cyhoedd a'r cyfryngau.

Ychwanegodd ei bod hi'n ymwybodol iawn fod ei gŵr wedi cyffwrdd â bywydau llawer iawn o bobl ac y byddai pob un yn hoffi diolch iddo am yr hapusrwydd a ddaeth iddynt.

Yn dilyn yr angladd yr wythnos hon, bydd gwasanaeth coffa'n cael ei gynnal i ddathlu bywyd Gary Speed er mwyn i gynifer â phosib o bobl allu rhoi eu teyrngedau ola' i'r rheolwr 42 oed.

Does dim dyddiad wedi'i gadarnhau ar gyfer y gwasanaeth eto.

Rhoddion

Bydd modd i unrhyw un roi arian i Sefydliad John Hartson neu Sefydliad Syr Bobby Robson er cof am Gary Speed.

Cafodd cwest i'w farwolaeth ei agor a'i ohirio yn Warrington ddydd Mawrth.

Clywodd y cwest mai achos ei farwolaeth oedd iddo gael ei grogi.

Mae disgwyl adroddiadau pellach oddi wrth y patholegydd.

Clywodd y cwest dystiolaeth y Ditectif Arolygydd Peter Lawless o Heddlu Sir Caer a gadarnhaodd mai Mrs Speed ddaeth o hyd i'r corff.

Dyw'r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.

Cafodd y cwest llawn ei ohirio tan Ionawr 30, 2012, am 2pm yn Warrington.

Cafodd y corff ei ddarganfod yn ei gartre' yn Huntington ger Caer fore Sul, Tachwedd 27.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.