Cwpan Cymru: Yr enwau o'r het

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Wrth i'r enwau ddod o'r het ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan Cymru roedd un gêm yn denu'r sylw yn syth.

Bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu Casnewydd yn eu tymor cyntaf nhw yn ôl yn y gystadleuaeth ers y 90au.

Un gêm arall fydd o ddiddordeb i lawer fydd ymweliad y deiliaid, Llanelli, â'r Rhyl.

Dim ond un gêm sy'n gweld dau dîm o Uwchgynghrair Cymru yn herio'i gilydd, sef ymweliad Airbus UK Brychdyn â Lido Afan.

Bydd Bwcle yn gobeithio creu sioc wrth groesawu'r Bala - felly hefyd Llandudno wrth deithio i Aberystwyth.

Pedwaredd rownd Cwpan Cymru yn llawn :-

Y Rhyl v. Llanelli

Lido Afan v. Airbus UK Brychdyn

Bwcle v. Bala

Flint Town Utd v. Castell-nedd

Aberystwyth v. Llandudno

Y Seintiau Newydd v. Casnewydd

Prestatyn v. Derwyddon Cefn

Caerfyrddin v. AFC Porth

Bydd y gemau'n cael eu chwarae erbyn Ionawr 28/29, 2012.