Teithiau newydd i Florida

Maes Awyr Caerdydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Mae cwmni teithio annibynnol mwyaf y DU, Cosmos, wedi cyhoeddi y bydd teithiau awyr uniongyrchol o Gaerdydd i Florida yr haf nesaf.

Bydd y gwasanaethau o fis Mai 2012 tan ddiwedd Awst ac fe fydd modd prynu gwyliau cyfan neu'r daith awyr yn unig.

Bydd awyrennau A330 yn gadael Caerdydd ar ddydd Llun ac yn gadael Maes Awyr Sanford, Orlando, yn oriau mân bore Mawrth.

Florida, lle mae Disneyworld ac Universal Studios, yw'r gyrchfan bell fwyaf poblogaidd o'r DU.

'Hinsawdd anodd'

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Patrick Duffy: "Rydym wrth ein bodd gyda phenderfyniad Cosmos i redeg y gwasanaeth i Orlando yr haf nesaf.

"Nid yw Orlando wedi bod ymysg ein cyrchfannau ers tro bellach ac mae'n newyddion gwych fod y cwmni teithio wedi penderfynu hyn.

"Mewn hinsawdd economaidd anodd, mae'r maes awyr wedi denu dau gwmni awyr - Vueling a Helvetic - a chwmni teithio Cosmos i'r maes awyr dros y naw mis diwethaf."

Mae cwmni Cosmos yn rhan o gwmni Monarch Travel Group a dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y grŵp, Hugh Morgan: "Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn yn nhermau gwerthiant teithiau i Florida.

"Cawsom gefnogaeth wych gan y parciau thema, gwestyau a chyflenwyr eraill er mwyn i ni allu hybu'r gyrchfan, ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed.

"Mae'r amser yn iawn i ehangu ein rhaglen i gynnwys mwy o deithiau rhanbarthol ac rydym wrth ein bodd o allu cynnwys Caerdydd."

Straeon perthnasol