Robbie Savage wedi gadael Striclty Come Dancing

Robbie Savage ac Ola Jordan Image copyright PA
Image caption Fe ddaeth ei siorts pêl-droed yn handi ar gyfer un perfformiad yn ystod y gyfres

Mae'r cyn-bêl-droediwr rhyngwaldol, Robbie Savage, wedi gadael cyfres Strictly Come Dancing.

Dros y penwythnos y Cymro oedd ar waelod y rhestr wedi'r marciau gan y beirniaid ac roedd yn y ddau ola' wedi pleidleisiau'r cyhoedd efo Jason Donovan.

Mae Savage wedi bod yn diddori'r gynulleidfa am y 10 wythnos diwethaf.

Y Gymraes Alex Jones yw'r unig un o Gymru ar ôl yn y gystadleuaeth gyda'r rownd gynderfynol yr wythnos nesaf cyn y rownd derfynol yn Blackpool.

Cafodd Savage, a chwaraeodd i dimau Manchester United, Crewe, Caerlyr, Birmingham, Blackburn a Derby, 30 pwynt gan y pedwar beirniaid nos Sadwrn am ei quickstep.

Wrth adael y gyfres nos Sul dywedodd ei fod yn credu bod y gyfres wedi gwella ei enw da.

Image copyright PA
Image caption Dywedodd ei fod wedi cael profiad ardderchog yn ystod yr wythnosau diwethaf

Cafodd y chwaraewr canol cae ei ddisgrifio yn y gorffennol fel y pêl-droediwr mwya' budur o ran ei steil chwarae.

"Mae hyn wedi golygu popeth i mi," meddai'r gŵr o Wersyllt ger Wrecsam.

"Efallai nad oedd pobl yn gwybod pwy oeddwn i cyn dod ar y gyfres.

"Doeddwn i ddim yn berson neis iawn ar y cae pêl-droed a gobeithio fod y cyhoedd wedi gweld fy mod i'n berson cyffredin.

"Dwi eisoes wedi ennill o ran delwedd y cyhoedd ohonof.

"Dwi wedi cael amser a phrofiad arbennig."

Dywedodd fod y cyfle i agor y sioe yn Arena Wembley ychydig wythnosau yn ôl yn un o nosweithiau gorau ei fywyd a'i fod yn teimlo fel "seren pop" o flaen 6,500 o dorf.

Roedd Jones a'i phartner James Jordan yn ail o waelod y cystadleuwyr.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC