Caerdydd 1-0 Birmingham

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Roedd ergyd Kenny Miller yn ddigon i sicrhau fod Caerdydd yn cipio tri phwynt yn erbyn 10-dyn Birmingham.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Caerdydd yn aros yn drydydd yn y Bencampwriaeth y tu ôl i Southampton a West Ham.

Sgoriodd Miller gydag ergyd o saith llathen ar ôl i Pablo Ibanez fethu a chlirio'r bêl.

Cyn hynny cafodd Curtis Davies ei anfon o'r cae ar ôl llorio Miller ar ymyl y cwrt cosbi.

Tarodd ergyd Whittingham yn erbyn y pyst.

Hwn oedd y chweched buddugoliaeth yn olynol i dîm y brifddinas yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Caerdydd: Marshall, McNaughton, Gerrard (Hudson 55), Naylor, Turner, Kiss (Mason 67), Whittingham, Cowie, Conway, Gunnarsson (Ralls 48), Miller.

Birmingham: Myhill, Carr, Murphy, Caldwell, Spector (Wood 75), Davies (cerdyn coch), Burke, Beausejour (Elliott 73), Fahey, King, Zigic (Pablo 64).

Torf: 22,010

Tabl y Bencampwriaeth

Dydd Sul Rhagfyr 4, 2011