Damwain: Anafiadau difrifol

damwain ffordd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i fenyw gael anafiadau difrifol i'w phen mewn damwain ffordd ddydd Gwener.

Digwyddodd y ddamwain am 9:00am yn dilyn gwrthdawiad rhwng car a lori yn Ffordd y Capel, Penderyn, Rhondda Cynon Taf.

Aed â'r fenyw i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau difrifol i'w phen.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.