Llyfrgell: Ffrae am rodd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, wedi datgan ei fod wedi ei siomi â'r penderfyniad.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei beirniadu am dderbyn rhodd o £300,000 gan ddyn fu'n gwasanaethu ochr yn ochr gyda'r SS yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dyn o Lydaw oedd Louis Feutren fu'n aelod o Uned Perrot yn Llydaw a gyd-weithiodd â'r Natsïaid yn Ffrainc.

Mae'r Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, wedi dweud ei fod yn siomedig.

Fe ddywedodd ymgynghorydd cyfreithiol wrth y Llyfrgell Genedlaethol nad oedd dewis ganddynt ond derbyn y gymynrodd o £300,000 ynghyd â nifer o ddogfennau.

Ffoi

Dywedodd y llyfrgell y bydden nhw'n defnyddio rhan o'r rhodd ar gyfer prosiectau yn ymwneud ag effaith ddinistriol Rhyfel a Ffasgaeth.

Roedd y Schutzstaffel, neu SS yn sefydliad milwrol fu'n gyfrifol am nifer o droseddau yn erbyn dynoliaeth pan oedd yr Almaen o dan rym Adolf Hitler a'r Natsïaid.

Bu nifer o wledydd fel Ffrainc a'r Iseldiroedd yn rhan o'r SS yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn dilyn y rhyfel fe wnaeth Louis Feutren ffoi o Ffrainc i Gymru cyn symud i fyw i Weriniaeth Iwerddon lle bu farw'r llynedd.

Dywedodd y llyfrgell fod archif Louis Feutren, sy'n cynnwys nifer o ddogfennau a thapiau, yn amlygu bywyd aelod o'r grŵp cenedlaetholgar Gwenn-ha-Du ac uned Perrot yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley, nad oedd hawl gan aelodau o fwrdd y llyfrgell, a benderfynodd dderbyn y gymynrodd, i adel eu "teimladau i ymyrryd yn ein penderfyniad".

'Siomedig'

Mae'r archif a'r rhodd o £300,000 wedi eu derbyn yn ôl cytundeb y Siarter Frenhinol a pholisi casglu'r llyfrgell, sy'n nodi'r angen i gasglu a sicrhau bod y cyhoedd yn cael mynediad i ddeunydd Celtaidd.

Dywedodd y llyfrgell fod ei bwrdd wedi dilyn rheolau'r Comisiwn Elusennau ac wedi dilyn cyngor cyfreithiol arbenigol cyn iddynt benderfynu derbyn y gymynrodd.

"Gofynnodd y llyfrgell am farn Llywodraeth Cymru ar y mater hwn." meddai Mr Lewis.

"Roedden ni'n teimlo y byddai derbyn y gymynrodd yn gallu effeithio ar enw da'r Llyfrgell Genedlaethol, un o'n sefydliadau diwylliannol sydd uchaf eu parch.

"Bu Louis Feutren yn cydweithio â'r Natsïaid. "Mae hon yn ffaith hanesyddol ffiaidd.

"Felly rwyf wedi fy siomi gan benderfyniad y Llyfrgell Genedlaethol i dderbyn yr arian ac rwy'n meddwl na fyddai unrhyw un yng Nghymru wedi ei herio pe baen nhw wedi penderfynu peidio derbyn y gymynrodd.

"Rwy'n credu y byddai creu adnoddau addysgiadol ar gyfer plant Cymru i amlygu effaith ofnadwy rhyfel, ffasgaeth, ac anoddefgarwch yn ddefnydd addas o'r arian hwn."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.