Cefnogwyr rygbi'n cofio Gary Speed

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Roedd mascot wedi gwisgo crys rhif 11 Speed cyn i'w gyn glwb chwarae yn Nottingham Forest nos Fawrth

Bydd cefnogwyr Cymru'n cofio am reolwr pêl-droed y tîm cenedlaethol, Gary Speed, gyda munud o dawelwch ddydd Sadwrn.

Bydd torf o 52,000 yn canu'r emyn Cwm Rhondda cyn y funud o dawelwch.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod yn "bwysig i rygbi roi teyrnged i Gary Speed" a bod gêm Cymru yn erbyn Awstralia yn "gyfle addas".

Cafodd y dyn 42 oed ei ddarganfod yn crogi yn ei gartre' ddydd Sul.

Yn y cyfamser, bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn rhoi teyrnged yn eu gêm gartre' yn erbyn Darlington nos Fercher.

'Llysgennad gwych'

Wrth sôn am y deyrnged yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd ar ran URC: "Roedd Gary Speed yn ddyn talentog yn y byd chwaraeon, llysgennad gwych i bêl-droed a gwir fonheddwr.

"Fel rheolwr pêl-droed Cymru roedd yn cael llwyddiant oedd yn codi'r gêm i lefel newydd yn rhyngwladol.

"Roedd yn cynrychioli gwerthoedd a ffordd o weithio oedd yn canu cloch gyda phawb sydd ynghlwm wrth rygbi.

"Byddwn yn ei golli a bydd yn cael ei gofio yn sicr am ei lwyddiannau.

"Mae'n bwysig i rygbi ddangos parch iddo ac mae'r gêm ryngwladol ddydd Sadwrn - y gynta' i dîm Cymreig ers ei farwolaeth - yn gyfle addas."

Dywedodd Clwb Pêl-droed Wrecsam y byddai eu chwaraewyr yn gwisgo crysau arbennig fel teyrnged i Speed wrth ymarfer cyn cic gynta' eu gêm uwchgynghrair Blue Square nos Fercher.

Roedd Speed yn wyneb cyfarwydd ar y Cae Ras a'i fab yn hyfforddi yn academi'r clwb.

Bydd yna funud o dawelwch i Speed a anwyd 13 milltir o Wrecsam ym Mancot, Sir y Fflint.

'Sioc enfawr'

Mae llyfr cydymdeimlad wedi cael ei agor i gyn chwaraewr Newcastle, Everton, Bolton a Leeds.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Mawrth.

Yn ôl llefarydd ar ran clwb Wrecsam: "Roedd yn sioc enfawr i bawb. Fel clwb roedden ni'n ei 'nabod yn dda am fod ei fab yn yr academi yma.

"Roedd llawer o'r chwaraewyr yn ei 'nabod, ac roedd rhieni eraill - roedden nhw'n ei 'nabod fel rhiant, nid fel rheolwr Cymru. Roedd o yma'n aml ar ddydd Sul.

"Mae'n biti mawr, ac mae'n holl gydymdeimlad ni gyda'i deulu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Baner gyda theyrnged i Gary Speed y tu allan i Ganolfan y Mileniwm

Roedd Speed wedi chwarae i Newcastle United 285 o weithiau, a dywedodd y clwb y byddai 'na lun o'r chwaraewr canol cae ar glawr eu rhaglen swyddogol ar gyfer eu gêm yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn, gyda theyrnged pedair-tudalen y tu mewn.

Roedd Speed wedi chwarae 85 o weithiau dros Gymru mewn gemau rhyngwladol.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol