Proffil: Nathan Cleverly

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Nathan Cleverly yw'r 11eg pencampwr bocsio'r byd

Roedd hi'n flwyddyn nodedig i bencampwr bocsio'r byd, Nathan Cleverly.

Roedd y Cymro eisoes wedi ennill pencampwriaethau Prydain a'r Gymanwlad pan gurodd Aleksy Kuziemski o Wlad Pŵyl i ennill pencampwriaeth is-drwm WBO y byd.

Dangosodd Cleverly ddwy ochr i'w allu yn 2011. Defnyddiodd y bocsiwr 24 oed ei bwer i guro Kuziemski o fewn pedair rownd yn Llundain ym mis Mai.

Ond roedd angen ei holl sgiliau bocsio, ei ffitrwydd a'i ddyfal-barhad i guro Tony Bellew ar bwyntiau wrth amddiffyn ei goron yn Lerpwl.

Fe wireddodd Cleverly ei brif freuddwyd, ond fe gafodd ei goroni'n bencampwr pan gafodd Juergen Braehmer ei ddiarddel, ac nid dyna'r ffordd yr oedd am ennill y bencampwriaeth.

"Roedd yn sefyllfa anarferol," meddai bocsiwr i Gefn Fforest.

"Roeddwn i fod i gwffio Braehmer - gornest yr oeddwn wedi ymarfer amdani am bum mis - a tridiau cyn yr ornest, ddaru e ddim cyrraedd y wlad.

"Cafodd yr ornest ei chanslo ar y funud olaf ac fe benderfynodd y WBO ddiarddel Braehmer.

"Fi oedd y pencampwr dros dro, felly cefais fy nyrchafu'n bencampwr llawn ac amddiffyn y goron yn erbyn Kuziemski.

"Roedd gen i deimladau cymysg. Ni chefais y cyfle i ennill y teitl yn y sgwâr bocsio. Ond trwy guro Kuziemski, cefais y cyfle i wireddu fy mhrif freuddwyd mewn bywyd."

Gobaith Cleverly nawr yw uno'r pencampwriaethau byd yn y pwysau is-drwm, ac mae ei hyrwyddwr Frank Warren wedi dechrau trafod gyda phencampwr WBA y byd, Beibut Shumenov, i drefnu gornest yn 2012.