Ymchwil yn rhagweld 'degawd yn y duwch' i economi Cymru

Canolfan Waith Image copyright Other

Mae ymchwilwyr yn rhagweld "degawd yn y duwch" i economi Cymru, gyda 46,000 yn llai yn gweithio erbyn 2020 o'i gymharu â'r nifer oedd mewn swydd yn 2008 - pan oedd ystadegau diweithdra ar eu hisaf cyn y dirwasgiad.

Gan fod ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 1,341,000 o bobl mewn gwaith yn 2008, byddai'n golygu gostyngiad o 3.4% erbyn 2020.

Yn eu hymchwil ar gyfer rhaglen CF99 BBC Cymru mae'r Sefydliad dros Ymchwil Polisi Cyhoeddus hefyd wedi rhagweld y bydd 8,000 yn llai o bobl yn gyflogedig yng Nghymru erbyn 2020 o'i gymharu ag eleni - yr unig ran o'r DU lle bydd gostyngiad dros y cyfnod.

Ym mhob rhan arall mae'r sefydliad yn rhagweld y bydd mwy mewn gwaith erbyn 2020 o'i gymharu â 2011.

Mae'r sefydliad wedi dweud mai'r nifer uchel o bobl yn y sector cyhoeddus a gweithgynhyrchu yng Nghymru sy'n gyfrifol am y "darlun dilewyrch". Dyma'r meysydd sydd wedi colli'r nifer ucha' o swyddi ers dechrau'r dirwasgiad.

'Darlun dilewyrch'

Mae'r lefelau uwch o ddiweithdra yn y sectorau hyn yn effeithio yn eu tro ar fusnesau eraill - fel siopau a bwytai - sy'n dibynnu ar bobl yn gwario eu henillion.

Yn ôl ystadegau swyddogol, mae 'na 335,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd - 25.7% o'r boblogaeth gyflogedig.

Dywedodd Katie Schmuecker, uwchgymrawd y sefydliad, fod yr astudiaeth yn "cyfleu darlun dilewyrch o ddegawd yn y duwch" ac yn awgrymu bod Cymru yn "un o'r ardaloedd sydd wedi'i tharo waetha' gan y dirwasgiad ac arbedion, ac o ganlyniad bydd yr adferiad yn hirach yn dod i'r ardaloedd hynny."

Mae'r sefydliad wedi dweud bod angen buddsoddiad yng Nghymru er mwyn ysgogi twf o ran swyddi.

Ac mae wedi argymell sefydlu clystyrau arloesi, gwario arian ar isadeiledd trafnidiaeth, banc buddsoddi a chymelliadau treth i fusnesau fuddsoddi mewn ymchwil, datblygiad ac arloesedd.

Mae rhaglen CF99 hefyd wedi edrych ar ystadegau swyddogol sy'n datgelu bod rhannau o Gymru wedi gweld cwymp sylweddol mewn cyfartaledd incwm dros y flwyddyn ddiwetha'.

Yn gynharach yn y mis, cyhoeddwyd mai Dwyfor Meirionnydd oedd yr ardal â'r cyfartaledd incwm isaf yn y DU.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd y cyfartaledd incwm wedi gostwng 8.7% y llynedd i £22,062.

Ond mewn ardaloedd eraill fel Brycheiniog a Maesyfed roedd y cyfartaledd incwm wedi codi 9.5%.

Ar y cyfan, roedd y cyfartaledd incwm ar draws Cymru wedi cynyddu 0.4% i £22,461.

'Ffynnu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Cymru "yn siŵr o gael ei tharo'n waeth" oherwydd y nifer uchel o swyddi sector cyhoeddus, ond eu bod yn "gwneud popeth posib i leihau effeithiau negyddol y toriadau i'n cyllid".

"Mae gennym restr o fesurau i gefnogi unigolion a helpu busnesau i ffynnu - o safleoedd sy'n cael eu ffafrio ar gyfer sefydlu Ardaloedd Menter, sectorau newydd i'w blaenoriaethu, adolygiad o bolisi treth busnes, i'n rhaglen £75m ar gyfer Twf Swyddi yng Nghymru ymhlith pobl ifanc di-waith rhwng 16-24 oed.

"Yr wythnos ddiwetha' fe gyhoeddon ni becyn £55m i helpu i greu a chynnal swyddi a thwf yn economi Cymru. Rydym yn buddsoddi £38.9m yn ychwanegol mewn pethau fel sgiliau a phrentisiaethau - a'r arian yna'n dod o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chynyddu treth cyngor yn Lloegr."

Yn ogystal, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi mewn ysbytai, ysgolion a ffyrdd newydd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.