Aberystwyth 1 Lido Afan 1

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Mae Lido Afan wedi codi i'r wythfed safle yn Uwchgynghrair Cymru ar ôl iddynt ennill pwynt oddi cartref yn erbyn Aberystwyth nos Fawrth.

Y tîm cartref sgoriodd gôl gynta'r ornest ar ôl tair munud pan rwydodd Sean Thornton.

Daeth Lido Afan yn gyfartal wedi 26 munud pan sgoriodd Mark Jones.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Aberystwyth yn dal un safle yn uwch na Chaerfyrddin sydd ar waelod y Gynghrair.

Nos Fawrth

Aberystwyth 1 Lido Afan 1

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:

Ar ôl gem nos Fawrth, Tachwedd 29, 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol