Damwain ddifrifol: Cyhuddo dyn

Simon Richardson Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Enillodd ddwy fedal aur a medal arian yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008.

Mae dyn 60 oed o ardal y Bontfaen ym Mro Morgannwg wedi cael ei gyhuddo wedi damwain ffordd pan gafodd y beiciwr Paralympaidd, Simon Richardson, ei anafu'n ddifrifol ym mis Awst.

Fe gafodd ei gyhuddo o yrru'n beryglus, gyrru o dan ddylanwad alcohol a pheidio ag aros wedi damwain.

Ar Ragfyr 7 fe fydd gerbron Ynadon Y Barri.

Roedd y beiciwr 44 oed o Borthcawl yn teithio ar yr A48 ar Awst 17.

Aed ag e mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd oherwydd anafiadau lluosog.

Enillodd ddwy fedal aur a medal arian yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008.