Agor a gohirio cwest i farwolaeth Gary Speed

Gary Speed a'i wraig Louise Image copyright PA
Image caption Mae Gary Speed yn gadael gwraig a dau o blant

Mae'r cwest i farwolaeth Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru, Gary Speed, wedi cael ei agor a'i ohirio yn Warrington brynhawn Mawrth.

Clywodd y cwest mai'r achos marwolaeth oedd iddo gael ei grogi.

Mae disgwyl adroddiadau pellach oddi wrth y patholegydd.

Clywodd y cwest dystiolaeth y Ditectif Arolygydd Peter Lawless o Heddlu Sir Caer a gadarnhaodd mai Mrs Speed ddaeth o hyd i'r corff.

Dyw'r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.

Cafodd y cwest llawn ei ohirio tan Ionawr 30, 2012, am 2pm yn Warrington.

Cafodd corff y rheolwr 42 oed ei ddarganfod yn ei gartre' yn Huntingdon ger Caer fore Sul. Mae'n gadael gwraig a dau fab.

Nos Fawrth mae disgwyl teyrnged cyn y gêm gwpan rhwng Caerdydd a Blackburn Rovers yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mewn datganiad dywedodd y teulu fod yr holl negeseuon cydymdeimlad a chefnogaeth wedi bod yn gysur mawr iddyn nhw.

Wrth siarad y tu allan i gartre'r teulu, dywedodd Hayden Evans, asiant Speed: "Hoffai teulu Gary ddiolch yn fawr i bawb am eu negeseuon cydymdeimlad a theyrngedau ar yr amser anodd hwn.

'Preifatrwydd'

"Mae'r holl gefnogaeth wedi bod yn help mawr inni.

"Hoffem ni ofyn bod y teulu yn cael parch a rhywfaint o breifatrwydd i alaru ar eu pennau eu hunain."

Dywedodd Mr Evans wrth BBC Cymru fod y gefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth "er ei fod yn wahaniaeth bach".

Pwysleisiodd nad oedd unrhyw arwydd fod rhywbeth o'i le. "Roedden ni (fi a Gary) wedi siarad ddydd Gwener, roedd popeth yn iawn.

"Ac roedden ni'n siarad ac yn cwrdd yn rheolaidd ... doedd dim arwyddion (fod rhywbeth o'i le) a dyna beth sy'n gwneud y cyfan yn gymaint o sioc."

Yn y cyfamser, mae teyrngedau o hyd i gyn chwaraewr canol cae Leeds United, Everton a Newcastle United.

Dywedodd dirprwy reolwr Cymru, Raymond Verheijen: "Os oeddech chi'n ei 'nabod fel person mae popeth yn groes i beth ddigwyddodd."

Doedd cyn chwaraewr Cymru gyda Speed, Dean Saunders, ddim yn gallu credu'r peth.

"Fel dyn, fyddech chi ddim yn gallu credu y gallai wneud rhywbeth fel yna," meddai.

"Rwy'n siŵr y daw'r gwir allan yn y pen draw. Dwi ond yn difaru na chefais gyfle i siarad gydag e'n gynt ... efallai y gallwn fod wedi dweud rhywbeth."

'Deinamig'

Image copyright PA
Image caption Mae cefnogwyr wedi bod yn arwyddo llyfr o gydymdeimlad yn swyddfeydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Nghaerdydd

Dywedodd Verheijen fod Speed yn ymddangos "yn benderfynol" mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf wrth edrych ymlaen at gemau rhagbrofol Cymru yng Nghwpan y Byd.

"Petaech chi wedi ei weld ddydd Mercher diwethaf yn y cyfarfod ym Mrwsel, roedd e mor ddeinamig yn ystod cyfarfod saith awr gyda'r gwledydd eraill yn brwydro am yr amserlen orau i Gymru," meddai.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ei fod yn "gwbl syfrdan".

"Mae'r negeseuon parch wedi bod yn anghredadwy - rhai didwyll iawn iawn. Roedd cymaint o barch at Gary ar y cae ac oddi arno.

"Roedd e'n un o'r bobl anhygoel yna oedd yn gallu cerdded i mewn i ystafell, boed honno'n llawn chwaraewyr neu gefnogwyr, a goleuo'r lle."

'Cymaint o wastraff'

Cafodd enw Craig Bellamy ei dynnu nôl o garfan Lerpwl ar gyfer eu gêm ddydd Sul yn erbyn Manchester City gan fod ei reolwr Kenny Dalglish yn credu nad oedd mewn cyflwr i chwarae.

Roedd cyn ymosodwr Cymru, John Hartson, i fod i sylwebu ar gêm Abertawe yn erbyn Aston Villa yn Stadiwm Liberty ond fe dynnodd yn ôl.

"Mae hyn yn galed i dderbyn," meddai Hartson.

"Mae e'n gymaint o wastraff. Wnes i ddim gweld hyn yn dod o gwbl.

"Mae e mor drist a thrasig, dyn ifanc yn ffit ac iach gyda'r byd wrth ei draed."

Gyrfa ddisglair

Image copyright PA
Image caption Enillodd Speed 85 o gapiau mewn gyrfa ryngwladol hir a disglair

Fe wnaeth Speed fwynhau gyrfa hir a disglair ar y cae.

Bu'n seren gyda Leeds - lle enillodd bencampwriaeth yr hen adran gyntaf cyn i'r Uwchgynghrair gael ei ffurfio ym 1992 - yn ogystal â chyfnodau gydag Everton, Newcastle, Bolton a Sheffield United.

Enillodd fwy o gapiau i Gymru na'r un arall heblaw golwyr - 85 - a bu'n rheoli Bolton a Sheffield United cyn derbyn swydd rheolwr Cymru i olynu John Toshack yn Rhagfyr 2010.

Wedi dechrau anodd roedd y tîm o dan ei reolaeth wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf.

Y fuddugoliaeth yn erbyn Norwy o 4-1 ar Dachwedd 12 oedd ei gêm olaf - trydedd buddugoliaeth Cymru yn olynol.

Straeon perthnasol