'Angen rheoli grantiau'n well'

Huw Vaughan Thomas Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yn ôl Mr Thomas: "Caiff llawer o grantiau eu rheoli'n wael".

Mae angen rheoli yn well y £2 biliwn y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ei wario bob blwyddyn drwy grantiau penodol, yn ôl adroddiad a gyhoeddir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddydd Mawrth.

Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, bod llawer o gynlluniau grant yn orgymhleth ac anaml iawn y mae arianwyr a derbynwyr yn dysgu gwersi o broblemau gyda chynlluniau yn y gorffennol.

Mae Cymru'n defnyddio grantiau yn fwy na gweddill y DU, ond yn ôl Mr Thomas: "Caiff llawer o grantiau eu rheoli'n wael, ac mae'n amlwg nad yw arianwyr a derbynwyr yn dysgu o gamgymeriadau yn y gorffennol, gan gynnwys peidio ag ystyried dulliau gweithredu eraill.

"Fodd bynnag, mae tystiolaeth i ddangos bod y rhai sy'n rhan o'r broses grantiau am wella systemau a phrosesau ac mae Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa dda i barhau i'w helpu i wneud hynny".

Gwendidau

Ymhlith y gwendidau a nodir yn yr adroddiad, mae methiannau ar ran arianwyr i ystyried hyfywedd, gallu ac adnoddau'r rhai sy'n derbyn grantiau, ynghyd â diffyg eglurder ynghylch canlyniadau disgwyliedig prosiectau.

Yn aml, nid yw arianwyr na derbynwyr yn cymryd camau i liniaru risgiau neu fonitro cynnydd prosiectau'n effeithiol ar ôl i'r grantiau gael eu dyfarnu, medd yr adroddiad.

Mae llawer o gynlluniau yn gymhleth a gellir eu symleiddio'n hawdd, medd yr archwilydd, tra bod amrywiaeth sylweddol ymhlith derbynwyr o ran ansawdd eu trefniadau i reoli prosiectau a ariennir drwy grantiau yn lleol.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth o newid cadarnhaol. Yn ôl yr adroddiad, mae rhai arianwyr a derbynwyr yn dechrau gwella eu trefniadau rheoli er mwyn cael gwell gwerth am arian.

Mae gan brosiect Rheoli Grantiau Llywodraeth Cymru'r potensial i dorri costau a gwneud y broses grantiau yn fwy effeithlon hefyd. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwella eu trefniadau rheoli grantiau, ond nid yw eraill yn dilyn eu hesiampl.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac arianwyr grantiau eraill, gan gynnwys:

  • Sicrhau y caiff y risgiau sy'n gysylltiedig â hyfywedd, gallu ac adnoddau derbynwyr grantiau eu hasesu'n briodol cyn dyfarnu arian grant.
  • Diffinio canlyniadau prosiectau a'r safonau a ddisgwylir o ran rheoli prosiectau a rheoli arian yn glir, a sicrhau bod y derbynwyr yn cytuno â'r rhain yn ysgrifenedig cyn y caiff unrhyw arian ei ryddhau.
  • Ystyried rhinweddau ffyrdd eraill (megis benthyciadau, buddsoddi a chaffael cystadleuol) o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir ar wahân i arian grant, cyn ymrwymo i greu cynlluniau grant newydd.
  • Cymryd camau cadarn mewn achosion o ordalu neu gamddefnyddio grantiau. Os parheir i ariannu cynllun, dylid cryfhau'r gofynion ar gyfer derbynwyr a threfniadau monitro cyn rhyddhau mwy o arian.

'Gwersi gwerthfawr'

Ymatebodd Darren Millar AC, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol: "Mae swm sylweddol o arian cyhoeddus yn cael ei wario'n flynyddol ar ariannu grantiau yng Nghymru, ac mae'n glir bod angen i'r rhai sy'n rhoi a derbyn yr arian wneud mwy i wella'r ffordd y caiff grantiau eu rheoli.

"Nid grantiau yw'r ffordd orau bob tro o ddarparu cefnogaeth gan y sector cyhoeddus, ac mae'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r grantiau yn aml yn gyfran sylweddol o'r grant ei hun, yn enwedig gyda grantiau llai.

"Mae gwersi gwerthfawr i'w dysgu o'r adroddiad hwn. Cyn dyfarnu grantiau, mae angen i'r rhai sy'n eu rhoi sicrhau eu bod yn ystyried yn llawn y risgiau o ran y rhai sy'n eu cael, a'u bod yn ystyried rhinweddau dulliau eraill o ariannu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad ac yn ymateb maes o law.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.