Llys: Cais am ad-daliad yn 'nonsens'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod cais dwy chwaer am ad-daliad Treth ar Werth o £161m yn "nonsens".
Mae Roberta ac Andrea Vaughan-Owen, 37 a 42 oed o Fae Colwyn, wedi gwadu cyfres o gyhuddiadau o dwyll.
Dywedodd Mr Lee Karu QC, sy'n amddiffyn Andrea Vaughan-Owen, wrth Lys y Goron Caernarfon mai uchelgais oedd y cymhelliad.
Roedd y gweithredoedd yn debycach i'r hyn y byddai Laurel a Hardy wedi ei wneud na Bonnie a Clyde, meddai.
Mae disgwyl i'r rheithgor ystyried eu dyfarniad ddydd Mawrth.
Hunandwyll
Dywedodd Mr Karu: "Y broblem oedd hyn - ni ddywedodd neb wrth y ddwy: 'Rhowch y gorau i hyn. Rydych chi'n siarad nonsens'."
Roedd elfen o hunandwyll, meddai, yn golygu bod y ddwy yn y doc.
Os oedd y rheithgor yn meddwl bod ei gleient wedi "ymddwyn yn onest mewn ffordd ddryslyd," yna roedd hi'n ddieuog, meddai.
Dywedodd yr erlynydd, Paul Taylor, fod y ddwy wedi byw "bywyd bras am flynyddoedd er nad oedden nhw wedi gwneud unrhywbeth i haeddu hynny."
Y man cychwyn oedd twyll credydau treth o £25,000 y flwyddyn ond pan gafodd hynny ei rwystro fe fentrodd y ddwy i faes Treth ar Werth.
"Dwi'n gobeithio y bydd yr awdurdodau'n atal hyn yn y dyfodol."
Ddim yn deall
Dywedodd Andrea Vaughan-Owen nad oedd hi a'i chwaer yn deall y ffurflen Treth ar Werth.
Fe gafodd y ffurflen ei llenwi, meddai, wedi i farnwr fynnu bod angen gwneud hynny o fewn dwy awr.
Dywedodd yr erlynydd fod y gwrandawiad ym mis Hydref 2008 ond bod y ffurflen wedi ei llenwi ym mis Rhagfyr.
Gwadodd hi ei bod yn newid ei thystiolaeth.
Mae'r ddwy wedi yn gwadu rhoi gwybodaeth ffug drwy wneud cais am ad-daliad TAW o £161m yn 2008, cofrestru cwmnïau i bwrpas TAW a cheisio am anfonebau i wirio cais am ad-daliad TAW, twyll yswiriant a bod yn rhan o weithgaredd twyllodrus er mwyn cael taliadau credyd treth.
Ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 7 Tachwedd 2011