Abertawe 0-0 Aston Villa
- Cyhoeddwyd

Roedd cysgod dros y gêm yn Stadiwm Liberty wrth i Abertawe groesawu Aston Villa.
Cyn y gic gyntaf, gofynnodd y cyhoeddwr am funud o ddistawrwydd i gofio am Gary Speed a fu farw fore Sul.
Yn lle hynny cafwyd munud o gymeradwyo a chanu enw Gary Speed wrth i'r cefnogwyr dalu eu teyrnged eu hunain i reolwr Cymru.
Roedd golwr Aston Villa, Shay Given - oedd yn gyd-chwaraewr gyda Speed yn Newcastle - yn ei ddagrau wrth glywed y deyrnged.
O ystyried yr awyrgylch o dristwch, doedd hi'n fawr o syndod fod y gêm a ddilynodd yn ddisgynneb.
Ychydig o gyfleoedd gafodd y naill dim a'r llall yn y 90 munud.
Daeth cyfle gorau Abertawe pan daniodd Leroy Lita ergyd heibio'r postyn yn yr ail hanner.
Y pen arall bu'n rhaid i Michel Vorm fod ar ei orau i rwystro Gabriel Agbonlahor ddwywaith, ac fe beniodd Chris herd heibio'r postyn hefyd i'r ymwelwyr.
Canlyniad: -
Abertawe 0-0 Aston Villa
Tabl Uwchgynghrair Barclays
Straeon perthnasol
- 18 Tachwedd 2011
- 30 Mai 2011