Wrecsam yn dal ar y brig

Image copyright bbc

Braintree 0-0 Wrecsam

Casnewydd 0-1 Luton

Mae Wrecsam yn dal i arwain Uwchgynghrair Blue Square ar wahaniaeth goliau yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn Braintree.

Roedd tîm Andy Morrell yn credu eu bod wedi ennill y gêm pan gawson nhw'r bêl yn y rhwyd ond cafodd y gol ddim ei chaniatáu a bu'n rhaid bodloni ar bwynt.

Ond siom aruthrol gafodd Casnewydd ar Barc Sbytty yn erbyn Luton.

Roedd tîm Justin Edinburgh o fewn eiliadau o gipio pwynt haeddiannol yn erbyn Luton, ond fe rwydodd yr ymwelwyr wedi 91 o funudau.

Roedd Casnewydd wedi creu nifer o gyfleoedd, ond yn methu manteisio.

Mae Casnewydd yn dal yn y tri gwaelod.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. WRECSAM 21 21 44
2. Fleetwood 21 15 44
3. Southport 21 5 41
4. Caergrawnt 21 12 38
5. Caerefrog 21 18 37
-----------------------------------------------------------------------------------------
22. CASNEWYDD 21 -10 16
23. Alfreton 21 -28 14
24. Caerfaddon 21 -22 9