Ymchwiliad wedi digwyddiad â char heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i gerddwr gael ei hanafu mewn gwrthdrawiad â char heddlu yng Nghaerdydd.
Cafodd y fenyw 67 oed ei chludo i'r ysbyty gydag anaf i'w phen ar ôl y digwyddiad ar Heol Casnewydd yn Nhredelerch tua 5.45pm ddydd Mercher.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y gyffordd rhwng Heol Casnewydd a Heol Cwrt Witla.
Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi cyfeirio'r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fydd yn cynnal ymchwiliad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol