Media Wales: Colli swyddi

Mae Media Wales, sy'n cyhoeddi'r Western Mail a'r South Wales Echo, wedi dweud y bydd 14 o swyddi'n diflannu yng Nghaerdydd.

Fe fydd hyn yn effeithio ar naw swydd yn yr adran hysbysebu a phump yn yr adran olygyddol, gan gynnwys dau ffotograffydd.

Dywedodd y cwmni fod hon yn rhan o "adolygiad o'r busnes".

Yr wythnos diwetha dywedodd Undeb y Newyddiadurwyr wrth y gallai papur y Western Mail droi'n wythnosolyn.