DNA: Gwarchod anifeiliaid anwes
- Cyhoeddwyd

Mae dau o raddedigion gwyddoniaeth Prifysgol Bangor wedi lansio gwasanaeth unigryw i adnabod anifeiliaid drwy astudio eu DNA.
Mae Richard Storey a Dan Struthers, a sefydlodd PetGen, o'r farn mai nhw yw'r unig gwmni yn y byd sy'n tynnu DNA o gelloedd anifeiliaid ac yn ei gadw at ddibenion eu diogelu a gallu eu hadnabod yn y dyfodol, a'u hatal rhag cael eu dwyn.
Cawson nhw'r syniad pan oedden nhw'n astudio geneteg anifeiliaid ac fe sylweddolon nhw fod yna fwlch yn y farchnad ar gyfer creu dull o adnabod anifeiliaid.
Yn sgil yr adborth o ymchwil maen nhw wedi'i wneud i'r farchnad, mae PetGen hefyd yn bwriadu darparu gwasanaethau fel gwasanaeth diagnostig milfeddygol a gwasanaeth dadansoddi tras cŵn pedigri a chŵn bridiau gwaharddedig.
Proffil DNA
Gan ddefnyddio offer arbennig mae perchnogion yn cymryd swab o geg eu hanifail ac yn ei bostio i PetGen lle mae'n cael ei buro, ei drin a'i gadw am hyd at 30 mlynedd.
Bob blwyddyn, mae 300,000 o anifeiliaid anwes yn y DU yn mynd ar goll neu'n cael eu dwyn.
Mae'r proffil DNA yn darparu tystiolaeth nad oes modd ei gwadu pan ddaw rhywun o hyd i anifail anwes sydd wedi'i ddwyn.
Mae'r busnes ym Mangor wedi elwa ar fwrsari £12,000 a chynllun mentora drwy raglen Llywodraeth Cymru sy'n helpu graddedigion i ddechrau busnes.
"Roedd y bwrsari'n help mawr wrth i ni roi'r busnes ar waith," meddai Richard Storey
"Yn anffodus, mae microsglodion yn gallu methu ac mae modd cael gwared â thagiau adar, ond all DNA anifail ddim torri ac ni all unrhyw un ymyrryd ag ef."
Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth ar gael i gŵn, cathod a cheffylau er mai'r bwriad yw dechrau gweithio gydag anifeiliaid bach eraill a physgod fel koi a rhai ymlusgiaid, lle mae cadw DNA yn opsiwn gwell na microsglodyn.
Mae ffigurau 2006 yn amcangyfrif bod yna tua 10.3 miliwn o gathod a 10.5 miliwn o gŵn yn y DU a bod tua 8 miliwn o ymlusgiaid yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes.
Y gred yw bod yna tua 11 miliwn o gwsmeriaid posibl yn y farchnad.